Cartrefi Newydd
Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu Strategaeth Gwaredu a Datblygu ar gyfer y safle.
Bydd hyn yn cynnwys penodi adeiladwr/wyr tai, neu gonsortiwm o adeiladwyr tai, i ddarparu'r tai newydd yn Lôn Slade.
Bydd y cynigydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyflawni'r prosiect, yn unol â'r disgwyliadau a nodir yn y caniatâd cynllunio a strategaeth gwaredu a gatblygu Llywodraeth Cymru.
Rhagwelir y bydd cyfleoedd posibl i gwmnïau adeiladu lleol llai fod yn rhan o'r gwaith, ochr yn ochr â lleiniau pwrpasol ar gyfer Hunan-Adeiladu Cymru a thai a arweinir gan y gymuned, gan roi mwy o ddewis i bobl leol o ran sut mae cartrefi newydd yn cael eu creu.


Tai fforddiadwy a chyfleoedd i bobl leol
Yn amodol ar asesiadau hyfywedd, bydd nifer sylweddol o'r cartrefi yn fforddiadwy.
Bydd lefel y cartrefi fforddiadwy yn adlewyrchu'r polisi sydd wedi'i gynnwys yn CDLl y Cyngor, ac os yn bosibl, lle bo'n hyfyw a lle mae angen lleol, bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i ddarparu mwy.
Bydd hyn yn cynorthwyo teuluoedd ac unigolion yn Hwlffordd a'r cyffiniau, nad ydynt yn gallu prynu na rhentu cartrefi ar y farchnad breifat, i gael yr hawl i dai cynaliadwy o ansawdd uchel.
Ansawdd a dylunio
Bydd y cartrefi newydd yn cael eu cynllunio i safonau modern, gan sicrhau ansawdd, hygyrchedd ac effeithlonrwydd ynni.
Bydd pwyntiau gwefru cerbydau trydan a storfa feiciau diogel yn cael eu cynnwys, a bydd y cynllun yn blaenoriaethu strydoedd diogel, sy'n gyfeillgar i bobl. Bydd dwysedd tai yn cael ei gydbwyso'n ofalus i ddarparu digon o gartrefi, gan greu amgylchedd byw deniadol ac amddiffyn coed, gwrychoedd a mannau agored.

Dylunio gyda'r dirwedd bresennol mewn golwg – golygfa tuag at ganol tref Hwlffordd
Cliciwch ar y ddelwedd uchod i weld yn fanylach

%20With%20Welsh%20Key%20copy.jpg)