Croeso
Mae cynigion yn cael eu cyflwyno i drawsnewid ardal a elwir yn 'Lôn Slade' yn gymdogaeth newydd, gynaliadwy ar gyrion gogleddol Hwlffordd. Mae tir ger Lôn Slade wedi'i nodi ers tro fel lleoliad addas ar gyfer cartrefi newydd a chyfleusterau cymunedol ac mae wedi'i ddyrannu yng Nghynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Sir Penfro.
Mae Pobl, darparwr gofal a thai nid-er-elw, eisoes wedi dechrau adeiladu cartrefi newydd i’r de o’r safle ar y cyd â Lovell Homes, ac mae wedi cyflwyno cynlluniau i Gyngor Sir Penfro (CSP) i ddatblygu ail gam.
Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu darnau ychwanegol o dir cyfagos ac yn gweithio gyda’r cydberchnogion tir, sef CSP a Pobl. Mae tîm o arbenigwyr wedi’i greu i sicrhau y gellir cynllunio a chyflawni’r datblygiad pwysig hwn ar gyfer yr ardal mewn ffordd gydgysylltiedig.
Mae'r wefan ymgynghori hon yn gyfle i'r gymuned leol weld y cynigion ar gyfer y gymdogaeth newydd, i ddeall beth sy'n cael ei gynnig, i archwilio drafft o'r 'Prif Gynllun' a rhannu ei safbwyntiau cyn cyflwyno'r cais cynllunio amlinellol.


Trosolwg o'r datblygiad
Mae'r cynlluniau drafft ar gyfer Lôn Slade yn cynnwys oddeutu 600 o gartrefi newydd (yn ychwanegol i'r camau Pobl), gyda chymysgedd o feintiau a deiliadaethau i ddiwallu anghenion lleol.
Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd nifer sylweddol o gartrefi yn cael eu dosbarthu fel rhai 'fforddiadwy', yn ogystal â bod cyfleoedd disgwyliedig ar gyfer cartrefi hunan-adeiladu (dan gynllun Hunan-Adeiladu Cymru), plotiau datblygu llai sy'n addas ar gyfer adeiladwyr cartrefi bach a chanolig a photensial ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned ar y safle.
Cynigir ysgol gynradd sy'n cynnwys meithrinfa newydd ar safle 2.2 hectar ar gyrion Hwlffordd, gyda lle i ehangu yn y dyfodol. Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys canolfan leol bosibl a allai ddarparu siop gyfleustra, caffi a chyfleusterau cymunedol, a hefyd o bosibl darparu lle ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd. Bydd mannau gwyrdd yn rhan ganolog o'r datblygiad.
Bydd y rhain yn cynnwys mannau chwarae, llwybrau chwarae, plannu gwrychoedd a choed, a llwybrau cerdded a beicio newydd sy'n cysylltu â chanol tref Hwlffordd.